Clive ChanningTHOMASYn dawel ar ddydd Sadwrn Hydref 10, 2015 yn ei gartref Glyncaled, Pentrecwrt, Llandysul, Clive Channing; priod annwyl Diana, tad tyner Jacqueline, Nicholas a Petra, tadcu cariadus Sioned, Billy, Adam, Stephen, Jack a Ifan a thad yng nghyfraith parchus Lane. Gwasanaeth i'r teulu a ffrindiau yn Eglwys Sant Luc, Llanllwni dydd Gwener Hydref 16, 2015 am 1 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond cyfraniadau os dymuir tuag at Meddygfa Teifi trwy law Gwilym C Price ei Fab a'i Ferched, 1-2 Stryd y Coleg, Llanbedr, Pont Steffan, SA48 7DY. Ffon. 01570 422673.
Keep me informed of updates